_JPG.jpg)
Croeso...
Welcome...
Teithiau tywys arbennig drwy dirwedd ac i mewn i geudyllau tanddaearol hen ddiwydiant mwyn gorllewin canolbarth Cymru.
Anturwch i mewn i'r twnneli llaith a'r tirwedd hynod, i lefydd nad sydd wedi cael eu cyffwrdd ers y gadawodd y mwynwyr dros ganrif yn ol. Darganfyddwch hen weithfeydd plwm, arian, copr a sinc sy'n dyddio yn ol dros 4,000 o flynyddoedd.
Rydym yn cynnig ystod eang o deithiau anturus ar yr wyneb ac o dan ddaear, sy'n edrych i mewn i amodau gweithio, bywydau a strwythur yr hen gymunedau mwyngloddio yng nghanolbarth Cymru. Sylwch ar faint y ceudyllau tanddaearol enfawr sy'n gorwedd yn gudd yng nghrombil Mynyddoedd y Cambria, a dysgwch am y cannoedd o bobl a arferai weithio yn y llefydd hollbwysig hyn.
Ymgollwch eich hun yn hanes unigryw diwydiant mwyngloddio canolbarth Cymru, wrth i'n teithiau gynnig cyfle bythgofiadwy i weld a phrofi awyrgylch y ceudyllau tanddaearol a'r tirwedd o'u cwmpas. Mi fydd eich taith hefyd yn cynnwys arteffactau ac hen offer mwyngloddio sydd wedi goroesi yng nghrombil y ddaear.
Mae pob taith ar gael yn Saeneg neu'r Gymraeg, ar yr wyneb neu o dan ddaear, ac mi ellir eu hanelu tuag at eich diddordebau chi. Gall hyn fod yn hanes cymdeithasol yr ardal, daeareg, archaeoleg, chwilota o dan ddaear neu bethau hwyl i wneud ar ddiwrnod allan yng nghanolbarth Cymru!
_JPG.jpg)
.jpg)
Subscribe to the Lost Mines
Youtube channel to see some of
Wales' lost metal mines explored
Diwrnod Allan anturiaethus
a diddorol yng ngorllewin
Canolbarth Cymru!
Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i wneud am ddiwrnod yng nghanolbarth Cymru, ar wyliau neu gyda diddordeb penodol yn hanes cyfoethog yr ardal, dewch ar un o'n teithiau a darganfod sut y siapiodd ddiwydiant a gyflogodd gannoedd o bobl am bedair mil o flynyddoedd y tirwedd a'r wlad y gwelwn ni heddiw.
Os ydych yn chwilotwr tanddaearol, hanesydd, archaeolegydd neu ddaearegydd, mi wnawn ein gorau i addasu ein teithiau i gyd-fynd a'ch diddordebau.
"Frozen in Time"
Visit untouched areas underground where surviving equipment and artefacts bring to life the conditions of work under the Cambrian Mountains
%20MHatton.jpg)
Mae Ioan Lord, sefydlydd Anturon Mwyn Gorllewin Cymru, wedi treulio ei fywyd yn archwilio a dogfennu treftadaeth a hanes mwyngloddio canolbarth Cymru.
Cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf yn 2018, Rich Mountains of Lead: the Metal Mining Industry of Cwm Rheidol and Ystumtuen, a ddatblygodd y maes ymchwil yn ogystal ag ennyn diddordeb lleol a chenedlaethol yn y rhan aml-anghofiedig yma o hanes a threftadaeth Cymreig.
Yn ogystal a pharatoi llyfrau i'r dyfodol, erthyglau a darlithoedd cyhoeddus, sefydlodd Ioan Anturon Mwyn Gorllewin Cymru yn 2019 i wneud y rhan hollbwysig yma o hanes Cymru yn hygyrch i'r cyhoedd, drwy gynnig teithiau tywys arbenigol i mewn i'r hen weithfeydd tanddaearol.
Gellir brynu copi o'i gyfrol cyntaf,
Rich Mountains of Lead, yma:
https://shop.rheidolrailway.co.uk/products/rich-mountains-of-lead-ioan-lord

.jpg)